![]()
Mae nifer o ffyrdd i wneud cyfraniad i Tros Gynnal, cliciwch
yma
![]()
Cliciwch
yma i nodi eich dewis o Adnoddau Codi Arian neu am fwy o wybodaeth neu
ymholiadau pellach, cysylltwch â Tros Gynnal
![]()
Digwyddiadau Codi Arian
Digwyddiadau Eithafol – Digwyddiadau eithafol i elusen ar gyfer y mwyaf anturus ohonom
Mae mwy na 65 o gerddwyr dewr eisoes wedi ymuno â her 3MM, ond nid yw’n rhy hwyr i chithau ymuno hefyd. Ffoniwch Seb ar 0777 222 7752 neu llenwch y ffurflen ar-lein yng nghefn y ‘flickrbook’ a’i dychwelyd atom cyn gynted â phosibl.
3 Mynydd Mawr 2010. Cliciwch yma
Arddangosfa ac Arwerthiant Celf Tros Gynnal
Gwahoddir artistiaid proffesiynol o Gymru a’r gororau i gyfrannu darn o’u gwaith i drydedd arddangosfa ac arwerthiant celf Tros Gynnal. Rydym yn derbyn gwaith o safon uchel ym mhob cyfrwng celfyddyd gain, celf a chrefft a’r cyfryngau. Bydd gwaith yn cael ei arddangos i’r cyhoedd am dri mis mewn 3 lleoliad amlwg cyn cael eu gwerthu mewn arwerthiant i godi arian i Tros Gynnal. Cynhelir yr arddangosfa yn Amgueddfa Abertawe rhwng Gorffennaf 28 a Medi 8, yn yr Atriwm, Caerdydd drwy gydol mis Medi ac ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen rhwng 1 a 30 Hydref. Cynhelir yr arwerthiant yng Nghaerdydd ar 4 Tachwedd - lleoliad i’w gadarnhau.
Os hoffech gymryd rhan lawrlwythwch ffurflen drwy glicio yma.
I weld catalog y llynedd cliciwch yma.
Arddangosfa ac Arwerthiant Celf Tros Gynnal 2009 – ffurflen i artistiaid
‘Climb Any Mountain’, Grisathon Flynyddol Tros Gynnal
– Her Elusen Gymreig i’r teulu cyfan.
Cliciwch yma
Ffurflen Nawdd. Cliciwch yma
Trefnu eich digwyddiad
Mae ein adnoddau codi arian yn addas ar gyfer llawer math o gasglu gan gynnwys:
Sticeri Tros Gynnal, Bathodynau awdurdod ( rhaid i gasglwyr ddefnyddio bathodyn
pwrpasol), Blychau casglu cyhoeddus ac Amlenni ac adnoddau eraill.
I gael eich adnoddau codi arian AM DDIM cliciwch y linc ar y chwith.
Syniadau Codi Arian. Os hoffech fod yn un o Gefnogwyr Tros Gynnal, gallwch helpu i godi arian mewn nifer o ffyrdd:
Hoffi Coffi? – Mwynhewch eich coffi boreol a helpwch blant Cymru. Cliciwch yma
Ffurfio Grŵp Ffrindiau Tros Gynnal
Cefnogwch ein raffl flynyddol
Anfonwch am Flwch Casglu Personol Tros Gynnal
Prynwch un o’n Tocynnau Trol a Chylch Allweddi

I gaelmwy o fanylion am unrhyw rai o’r uchod, cliciwch
yma.